#

Y Pwyllgor Deisebau | 17 Ionawr 2016
 Petitions Committee | 17 January 2017
Deiseb: Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-729

Teitl y ddeiseb: Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas

Testun y ddeiseb:

Bu cyfyngiadau cyflymder yn nhwnelau Bryn-glas ac o'u cwmpas ar ffyrdd cerbydau tua'r dwyrain a thua'r gorllewin ar yr M4 ers 2011, ac maent yn achosi diflastod i fodurwyr di-rif bob dydd. Cynigir y dylid tynnu'r holl gyfyngiadau cyflymder yn yr ardal hon a dychwelyd at y terfyn cyflymder cenedlaethol i gyfeiriad y dwyrain a'r gorllewin.

Cefndir

Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd rhwng Cyffordd 24 (Coldra) a Chyffordd 28 (Parc Tredegar) yw'r ffordd brysuraf yng Nghymru ac mae'n cario tua 100,000 o gerbydau bob dydd. Fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Terfyn Cyflymder Amrywiadwy ar hyd yr 8 milltir (13km) hwn yn 2011. Caiff y system ei hadnabod fel cynllun Terfyn Cyflymder Amrywiadwy yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru ac, yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru, cafodd ei gyflwyno "fel ffordd o leihau tagfeydd a gwella diogelwch a sicrhau bod amseroedd teithio yn fwy dibynadwy.” Mae'r system Terfyn Cyflymder Amrywiadwy yn disodli'r system camerâu cyflymder cyfartalog a osodwyd yn 2009 i gadw traffig yn symud hyd at 50mya tra bod gwaith gwella'r llwybr yn cael ei gyflawni.

System Signalau Awtomatig a Chanfod Digwyddiadau ar Draffyrdd (MIDAS)

Mae terfynau cyflymder amrywiol ar yr M4 rhwng cyffyrdd 24 a 28 yn cael eu gweithredu'n awtomatig gan system o synwyryddion sy'n rhan o arwyneb y ffordd a elwir yn System Signalau Awtomatig a Chanfod Digwyddiadau ar Draffyrdd (MIDAS). Ei hegwyddor sylfaenol yw cadw traffig yn symud drwy addasu'r terfyn cyflymder, gan wneud teithiau'n fwy diogel ac yn fwy dibynadwy.

Mae cyfrol 9, adran 1, rhan 2 (TD 45/94 (PDF, 57KB)) o'r Design Manual for Roads and Bridges yn cynnwys y meini prawf safonol ar gyfer system MIDAS ac mae'n nodi: 

The areas to be covered by these systems are sections of motorways which have features that may lead to frequent queues or incidents. A prime aim of MIDAS is to protect the back of traffic queues, which have formed or are about to form, by automatically setting suitable signals to warn approaching traffic. This will achieve a speed of operation and accuracy unattainable by manually operated systems. Such systems can also be used with variable message signs to give advance warning of queues and incidents enabling drivers to seek alternate routes if they so choose.

Rheolir y cynllun Terfyn Cyflymder Amrywiadwy gan Traffig Cymru, y mae ei dîm ystafell reoli yn gweithredu ac yn monitro'r system ar ran Llywodraeth Cymru o Ganolfan Rheoli Traffig De Cymru yng Nghaerdydd. Mae dogfen Traffig Cymru/Llywodraeth Cymru Your Questions Answered (PDF, 2.9MB) yn nodi:

At present, the section is vulnerable to congestion build-up as traffic flows exceed capacity (the approximate average traffic flow is 2,188 vehicles per lane per hour compared with 1,800 vehicles recommended by design standards). Combined with varying gradients and tight bends that reduce visibility for the driver, the level of congestion contributes to a local accident rate higher than the national motorway average, which included nine fatalities between July 2006 and June 2009.

Drwy'r rhan hon o'r draffordd, caiff y terfyn cyflymder gorfodol ei addasu yn unol ag amodau traffig er mwyn sicrhau bod cerbydau'n symud yn raddol. Yn ystod cyfnodau heb dagfeydd a heb ddigwyddiadau, nid yw'r arwyddion ar gyfer y system Terfyn Cyflymder Amrywiadwy yn weithredol ac mae'r terfyn cyflymder cenedlaethol yn berthnasol. Yn ystod y cyfnodau prysur o ran traffig neu pan fydd digwyddiad, bydd synwyryddion y system yn canfod y tagfeydd ac yn cyfrifo'r terfyn cyflymder gorau posibl ar gyfer y swm o draffig. Yna, caiff terfynau cyflymder eu harddangos ar yr arwyddion electronig sydd uwchben y lonydd neu ar ochr y ffordd i leihau'r risg o wrthdrawiadau o gerbydau sy'n agosáu at gefn ciwiau. Pan fydd llif y traffig yn tawelu, ni fydd angen arwyddion y cynllun Terfyn Cyflymder Amrywiadwy mwyach a bydd y ffordd gerbydau'n dychwelyd i weithredu'n ôl yr arfer. Ochr yn ochr â'r system awtomataidd, bydd gweithredwyr awdurdodedig y ganolfan reoli yn monitro'r rhwydwaith ffyrdd a gallant ymyrryd os bydd angen.

Mewn llythyr at y Cadeirydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith dyddiedig 22 Tachwedd 2016, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod terfyn cyflymder dros dro o 50mya ar hyn o bryd tua'r gorllewin at dwnelau Bryn-glas oherwydd dibyniaeth barhaus ar system oleuadau dros dro a osodwyd er mwyn caniatáu ailagor y twnnel yn gyflym ar ôl tân ym mis Gorffennaf 2011. Ar ôl blaenoriaethu gwaith adnewyddu ar yr eger tua'r gorllewin, rhagwelir y gellir cael gwared ar y terfyn cyflymder o 50mya dros dro erbyn mis Ebrill 2017.

Gorfodi'r Terfyn Cyflymder Amrywiadwy

Caiff camerâu gorfodi cyflymder eu gosod ar nenbontydd uwchben gyda'r camerâu yn cael eu gweithredu ar ôl canfod cerbyd sy'n teithio'n gyflymach na'r terfyn cyflymder sydd mewn grym ar y pryd. Mae gan y system Gymeradwyaeth angenrheidiol y Swyddfa Gartref (HOTA) sy'n caniatáu ei ddefnydd at ddibenion gorfodi. Caiff gorfodaeth cyflymder ledled Cymru ei rheoli a'i chydgysylltu gan GanBwyll, sef partneriaeth aml-asiantaeth sy'n cynnwys yr holl Awdurdodau Priffyrdd yng Nghymru a'r pedwar heddlu yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y camerâu ac yn eu gosod ar Draffordd yr M4 a'r heddlu, fel yr awdurdod gorfodi, sy'n gyfrifol am y gwaith gorfodi o ddydd i ddydd.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ar 17 Ionawr 2011 gosododd Llywodraeth Cymru Reoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i'r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i'r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011(Rheoliadau 2011) gerbron y Cynulliad er mwyn galluogi cyflwyno system terfyn cyflymder amrywiol ar Draffordd yr M4 rhwng Cyffordd 23A (Magwyr) a Chyffordd 29 (Cas-bach) a'r slipffyrdd cyfagos. Cafodd y rheoliadau hyn eu disodli yn ddiweddarach gan Reoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015(Rheoliadau 2015) a gafodd eu gosod gerbron y Cynulliad ar 31 Mawrth 2015 a daethant i rym ar 21 Ebrill 2015. Mae'r Memorandwm Esboniadol (PDF, 130KB) i Reoliadau 2015 yn nodi y canfu archwiliad fân wallau yn y disgrifiadau o hyd y cynllun yn yr atodlen i Reoliadau 2011 a bod Rheoliadau 2015 yn cywiro'r gwallau hynny. Mae'r memorandwm esboniadol yn egluro ymhellach:

An audit found minor errors in the scheme length descriptions in the schedule to the 2011 Regulations, and there are some overlaps between areas covered by the 2011 Regulations and areas covered by other road traffic orders. This discrepancy is making the police and Go-Safe, who perform a management function for prosecutions relating to exceeding speed limits, wary of enforcing the lower speed limits on drivers. The issues about possible conflicts and overlaps with pre-existing SIs at entry/exit slip roads throughout the VSL scheme should not affect the enforcement of the VSL on the M4 itself. However these issues, if not resolved, may be raised as part of any legal challenge and could be used to try and undermine the validity of the VSL scheme. Our enforcement partners (the police and Go-Safe) are unwilling to enforce compliance while this risk of legal action remains. Data analysis by officials shows that compliance with the speed limit is gradually diminishing. For example, at a sample location displaying a 50mph setting, approximately 85% of vehicles were driven below the speed camera capture threshold at the start of the scheme. This figure is now approximately 79%. This shows that the full benefits of the scheme are not being realised without the enforcement aspect. In order for our enforcement partners to proceed with confidence, these Regulations correct the errors in the 2011 Regulations.

Ar 25 Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru lansiad ymgyrch diogelwch newydd ar gyfer y rhan hon o'r M4. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r ymgyrch yn cynnwys cam addysg ac ymwybyddiaeth cychwynnol, gan gynnwys "cyfnod gras", ac yna cyfnod gorfodi ac erlyn. Dywedodd trydariad gan GanBwyll ar 20 Medi 2016 y dechreuodd gorfodaeth ar 26 Medi 2016.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod system terfyn cyflymder amrywiadwy ar waith ar hyd y rhan hon o'r M4 er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd. Mae'r llythyr hefyd yn nodi yr ystyrir bod y prosiect arfaethedig sy'n ymwneud â choridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn ateb cynaliadwy, hirdymor i'r problemau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sy'n gysylltiedig â'r M4 bresennol o amgylch Casnewydd. Mewn datganiad ysgrifenedig ar y prosiect a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 14 Rhagfyr 2016, datgelodd Llywodraeth Cymru fod yr “asesiadau diweddaraf yn dangos y bydd lefelau’r traffig yn y dyfodol, gan ystyried y cynigion diweddaraf ar gyfer y Metro, yn parhau i dyfu” gyda'r traffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd “yn dal yn rhy drwm, gan greu problemau difrifol sy’n gwaethygu”. Cadarnhaodd y datganiad y bydd “Arolygwyr Annibynnol am ystyried y Prosiect mewn ymchwiliad y penderfynir arno gan yr Arolygiaeth Gynllunio ac a fydd yn dechrau ar 28 Chwefror 2017”.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar effaith y cynllun Terfyn Cyflymder Amrywiadwy ar lif traffig gan William Graham AC yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Chwefror 2013, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

Mae’r arwyddion presennol yn awgrymu bod tagfeydd yn llai difrifol yn dilyn sefydlu’r system. Mae’r system yn lleihau’r ciwio sy’n deillio o ofynion ar y rhwydwaith ar adegau brig yn hytrach na chael gwared arno’n gyfan gwbl. Bydd asesiad llawn yn cael ei gynnal pan fydd digon o wybodaeth wedi’i chasglu i ddarparu asesiad ystadegol dibynadwy.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.